Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg
Cyfarfod Blynyddol
Cyfarfod am 6.30pm, nos Fercher 5 Tachwedd, 2014, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
Cofnodion
Presennol: David Rees AC (Cadeirydd); Eluned Parrott AC; Nick Ramsay AC, Simon Thomas AC, Keith Davies AC, Mark Isherwood AC, ac aelodau allanol: Dr Stephen Benn; Dr Tom Crick; David Jones; Samantha Murphy, Joy Byrne, Sara Williams, Jessica Leigh Jones a Leigh Jeffes
Croeso
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Cyfarfod Blynyddol, gan gynnwys ein siaradwraig, Jessica Jones
Ethol Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg
Etholwyd David Rees AC yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod
Ethol tri Is-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg
Etholwyd Eluned Parrott AC, Nick Ramsay AC, a Simon Thomas AC yn Is-gadeiryddion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod
Ethol Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg
Roedd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn fodlon parhau i weinyddu gwaith y Grŵp, ac etholwyd Leigh Jeffes yn Ysgrifennydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod
Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2013-14
Cafodd hwn ei ddosbarthu a’i gymeradwyo
Ymddiheuriadau am absenoldeb
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan: Yr Athro Keith Smith, Yr Athro Faron Moller, Dr Rhys Phillips, Helen Francis, Yr Athro Ian Wells, Dr David Cunnah, Christine O’Byrne a Cerian Angharad
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2014
Cadarnhawyd fod y rhain yn gofnod cywir
Materion yn codi
Nid oedd unrhyw faterion yn codi
Testunau ar gyfer cyfarfodydd yn 2015
Gofynnwyd i’r Grŵp feddwl am awgrymiadau ar gyfer testunau yn 2015, ac anfon y syniadau drwy e-bost at Leigh. Gan fod disgwyl Adroddiad Donaldson yn gynnar yn y flwyddyn newydd, penderfynwyd canolbwyntio ar bynciau STEM yng nghyfarfod mis Mawrth
Y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau gan Gymdeithasau Dysgedig a Chyrff Proffesiynol
Rhoddodd y cynrychiolwyr adroddiad ar weithgareddau presennol a digwyddiadau sydd i ddod
Cyflwyniad: Jessica Leigh Jones, Labordy Mellt Morgan-Botti, Prifysgol Caerdydd
Siaradodd Jessica am: Sut i adeiladu Labordy Mellt sy’n unigryw i Ewrop:
Datblygiad parhaus Labordy Mellt Morgan-Botti Prifysgol Caerdydd. Y Labordy Mellt yw’r unig ganolfan ymchwil i fellt yn Ewrop sy’n cael ei harwain gan Brifysgol ac sy’n gallu creu mellt artiffisial gyda cherrynt mwy na 200,000A. Prif ddiben y labordy yw gwneud gwaith ymchwil i ddeunyddiau a systemau Diogelwch rhag Mellt (LSP) ar gyfer y diwydiant aerofod, ond mae bellach yn mentro ymhellach, gan ddatblygu galluoedd diagnostig a nodweddu newydd sy’n atyniadol i amrywiaeth eang o ddiwydiannau.
Yn dilyn cwestiynau, diolchodd y Cadeirydd i Jessica am ei chyflwyniad
Unrhyw Fater Arall
Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod
Dyddiadau Cyfarfodydd yn ystod 2015
Dydd Mercher 4 Mawrth; Dydd Mawrth 7 Gorffennaf; Dydd Mawrth 3 Tachwedd
Cynhelir y cyfarfodydd i gyd yn Ystafell Gynadledda 21 am 18.30
Cloi’r Cyfarfod
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 19:40